Mae dwsin o blant wedi eu hanafu heddiw ar ôl i fws oedden nhw’n teithio yno ddod oddi ar y ffordd mewn tywydd “erchyll”.
Roedd y llanciau ar drip i Alton Towers pan adawodd y cerbyd y ffordd a tharo dŵr ar yr A73 yn Wiston yn Ne Swydd Lanark yn yr Alban.
Cafodd pedwar o’r disgyblion o Ysgol Ramadeg Lanark eu hanafu’n ddifrifol ac mae wyth arall wedi dioddef anafiadau llai. Roedd chwech o oedolion a 33 o bobol ifanc ar y bws adeg y ddamwain, ddigwyddodd tua 6am.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Strathclyde eu bod nhw’n dal i ymchwilio i beth achosodd y ddamwain, ond dywedodd bod y tywydd yn “erchyll” ar y pryd.
Yn ôl dyn lleol roedd y bws “ar ei ochor mewn nant” a bod y rhan fwyaf o’r bobl wedi eu cymryd i neuadd tref gyfagos.
(Llun: Eira yn yr Alban)