Clywodd mam o Gymru ddoe nad oedd rheswm amlwg pam y cafodd ei mab ei saethu i farwolaeth wrth astudio mwncïod yn Ecuador.

Clywodd cwest i farwolaeth Benjamin Samphire, 31, yng Nghasnewydd ei fod o wedi ei saethu yn ei gefn wrth gwblhau prosiect ymchwil yn y wlad yn Ne America. Roedd o’n gobeithio ceisio am radd meistr mewn diogelu primatiaid.

Roedd yr un a ddrwgdybir o’i lofruddio wedi “mynd i guddio” yn ôl yr heddlu yn Ecuador.

Dim ond am fis oedd Benjamin Samphire wedi bod yn Ecuador cyn iddo farw ym mhentref El Palmar ar yr arfordir.

Roedd y ditectif ringyll Wendy Keepin, o Heddlu Gwent, wedi ymchwilio i’r farwolaeth.

“Maen nhw’n credu bod yr unigolyn wedi mynd i guddio ac maen nhw’n cael trafferth dod o hyd iddo,” meddai wrth y cwest.

Dywedodd mam Benjamin Samphire, Elizabeth Samphire, 65, o’r Fenni bod ei mab yn frwdfrydig ynglŷn â diogelu primatiaid.

Roedd ei mab wedi ei eni ei Zambia ond yn byw ym Mryste, ac yn cadw cysylltiad â hi tra’r oedd o dramor ac erioed wedi dweud nad oedd o’n teimlo’n saff, meddai.

Cofnododd y Dirprwy Grwner Wendy James ddedfryd o ladd anghyfreithlon.

“Roedd Ben yn cwblhau prosiect gwyddonol yn ymwneud a rhywogaethau mwncïod ac wedi bod yn yr ardal ers chwe diwrnod,” meddai.

“Am tua 1pm roedd yna sŵn saethu ac yna fe gafodd Ben ei saethu.”

Dywedodd ei bod hi’n gobeithio y byddai heddlu Ecuador yn dod o hyd i’r sawl wnaeth gyflawni’r trosedd mor fuan a bo modd.