Fe fu farw’r darlithydd a’r amgylcheddwr adnabyddus Geraint George yn ei gartref ddoe.

Roedd yn ddarlledwr ac awdur amlwg ym maes natur a’r amgylchedd ac ef oedd Cyfarwyddwr y cwrs Rheolaeth Cefn Gwlad ym Mhrifysgol Bangor.

Roedd yn aelod o nifer fawr o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys y Cyngor Cefn Gwlad a’r Comisiwn Coedwigaeth. Ef oedd Is-Gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Roedd cyfarfod o’r Cyngor Cefn Gwlad i fod i gael ei gynnal heddiw ond mae’r Cyngor wedi hysbysu Golwg360 erbyn hyn eu bod wedi gohirio’r cyfarfod.

Roedd yn llais cyson ar y rhaglen radio Galwad Cynnar ac yn wyneb adnabyddus ar y teledu. Yn ystod yr wythnosau diwetha’ roedd wedi dechrau sgrifennu colofn amgylcheddol i’r cylchgrawn Golwg.

Mae Golwg360 yn deall y daethpwyd o hyd i’w gorff yn ei gartref yn ardal Bethel ger Caernarfon.

Roedd ffrindiau a chydweithwyr wedi eu syfrdanu – roedd yn ddyn brwdfrydig a llawn afiaith, medden nhw. Mae’n gadael gwraig a thair merch.

Cofio Geraint George