Byddai Llafur yn sicrhau sustem mewnfudo “teg a dan reolaeth” pe bai nhw’n cael eu hail ethol, meddai’r Prif Weinidog heddiw.

Dywedodd fod angen i’r sustem mewnfudo fod yn hyblyg er mwyn cwrdd â gofynion busnesau Prydain.

Roedd yn feirniadol o gynllun y Ceidwadwyr i adael hyn a hyn o fewnfudwyr o’r Undeb Ewropeaidd i mewn gan ddweud y byddai’n gwneud niwed i fusnesau’r wlad.

Mewn araith ar y pwnc heddiw fe fydd Gordon Brown yn ymosod ar wleidyddion sy’n honni fod mewnfudo “allan o reolaeth”.

Dywedodd bod y ffigyrau yn dangos fod mewnfudo wedi bod yn disgyn dros y blynyddoedd diwethaf.

Fe fydd hefyd yn galw ar y pleidiau eraill i wrthwynebu’r rheini sydd eisiau atal mewnfudo am nad ydyn nhw’n hoffi mewnfudwyr.

“Y cwestiwn yw, pwy sydd a’r cynllun gorau i atal mewnfudo – nid pwy all apelio at reddfau gwaethaf ein cenedlaetholdeb a senoffobia,” meddai yn ei araith.

“Fe allen ni ddewis cwota ffaeledig a mympwyol – a gwrthod y sgiliau sydd ei angen ar ein busnesau ni, a bygwth dyfodol busnesau Prydain.”

Mae disgwyl i fewnfudo fod yn bwnc llosg yn yr Etholiad Cyffredinol, wrth i’r BNP geisio ennill eu sedd gyntaf yn San Steffan.

Byddai sustem mewnfudo newydd Llafur yn gadael pobol i mewn i’r wlad ar yr amod fod ganddyn nhw sgiliau arbennig neu os ydyn nhw’n gallu llenwi twll ym marchnad lafur Prydain.