Cymru fydd gwlad gyntaf Prydain i gael signal teledu cwbl ddigidol erbyn diwedd y dydd heddiw ar ôl dechrau’r broses o ddiffodd yr hen signalau analog olaf am hanner nos.

Erbyn diwedd y dydd bydd pawb sydd heb newid i signal digidol fel Freeview neu Sky yn colli eu signal teledu.

Mae trosglwyddydd Wenvoe ger Caerdydd, sy’n gwasanaethu 649,000 o dai yn ne-ddwyrain Cymru, yn y broses o gael ei ddiffodd.

Dechreuodd y broses o ddiffodd yr hen signalau analog i yn Abertawe mis Awst diwethaf.

Dywedodd Emyr Hughes, rheolydd rhanbarthol Digital UK, fod y newid wedi mynd yn iawn hyd yma a bod y rhan fwyaf o Gymru â signal lloeren beth bynnag.

Bydd y rhan fwyaf o’r Alban yn ymuno â Chymru yn hwyrach eleni ond ni fydd Llundain a Gogledd Iwerddon yn newid tan 2012.