Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi mynd ar ymweliad annisgwyl i Afghanistan.

Dim ond llond llaw o staff y Tŷ Gwyn oedd yn gwybod ymlaen llaw a dim ond ar ôl i’r ymweliad ddechrau y cafodd y wasg wybod.

Yn ystod yr ymweliad, fe fydd Barack Obama’n trafod gydag Arlywydd Afghanistan, Hamid Karzai, a phrif swyddogion y lluoedd Americanaidd yno. Dim ond awr o rybudd a gafodd Hamid Karzai cyn y cyfarfod.

Dyma ymweliad cynta’ Barack Obama â’r wlad ers iddo gael ei ethol yn Arlywydd ac mae’r Unol Daleithiau yn y broses o gynyddu nifer y milwyr yno i fwy na 100,000.

Mae poblogrwydd yr Arlywydd ynglŷn â’r pwnc wedi codi yn ystod yr wythnosau diwetha’ ac mae yna hyder newydd yn y Tŷ Gwyn ers Obama ennill ei frwydr tros ddiwygio gofal iechyd a chael cytundeb arfau niwclear gyda Rwsia.

Daw’r ymweliad yn fuan ar ôl cyhoeddi neges newydd gan arweinydd terfysgwyr al Qaida, Osama bin Laden. Y gred yw ei fod yn cuddio ar y ffin rhwng Afghanistan a Phacistan.