Fe fu criw bach o brotestwyr yn Llundain yn galw am ymddiswyddiad y Pab tros sgandal cam-drin plant a’r Eglwys Babyddol.
Roedd y criw o tua 30 yn chwilio posteri y tu allan wrth i addolwyr adael Eglwys Gadeiriol Babyddol Westminster.
Os na fydd y sgandal wedi’i ddatrys cyn hynny, fe allai olygu y bydd protestiadau mwy pan fydd y Pab yn ymweld â gwledydd Prydain ym mis Medi.
Mae Bened XVI wedi cael ei feirniadu am beidio â mynd yn ddigon pell wrth gondemnio cam drin gan offeiriaid yn Iwerddon, nac wrth ymddiheuro tros ran awdurdodau’r Eglwys yn cuddio hynny.
Maen yntau wedi cael ei ddal mewn cyhuddiadau tebyg oherwydd ei rôl yn Gardinal yn yr Eglwys Babyddol yn yr Almaen ac wedyn yn Rhufain.
Beio
Mae wedi cael ei feio am ei ran yn achos offeiriad a gafodd ei anfon am gyngor cwnsela ar ôl cam-drin plant ond a aeth wedyn yn ôl i weinidogaethu.
Honiad arall yw ei fod wedi helpu i atal achos yn erbyn offeiriad yn America a fu’n cam-drin plant byddar – oherwydd bod y profiadau’n rhy hen a’r offeiriad yn oedrannus.
Mae offeiriaid amlwg yn Rhufain a Gwledydd Prydain wedi amddiffyn y Pab gan ddweud ei fod wedi gwneud llawer i dynhau’r rheolau.
“Mae’r cyfrifoldeb yn aros gydag e ac fe ddylai ymddiswyddo,” meddai un o’r protestwyr, yr ymgyrchydd amlwg Peter Tatchell.
Llun: Y brotest yn Llundain (Gwifren PA)