Fe lwyddodd Dreigiau Gwent i chwalu holl sêr y Gweilch a dod yn gyfartal â nhw yng Nghynghrair Magners.

Yn ôl y sylwebyddion, roedd perfformiad y tîm o Gasnewydd yn un o rai gorau’r tymor hwn wrth iddyn nhw ennill yn fwy cyfforddus nag yr oedd y sgôr yn ei ddangos.

Gyda mwy na 7,000 o gefnogwyr yn Rodney Parade, fe lwyddon nhw i sgori dau gais gwych yn yr hanner cynta’ gan arwain 21-10 ar yr egwyl.

Ceisiau gwych

Fe ddaeth y gynta’ gan Will Harries ar ôl rhuthr 35 llath gan y prop Huw Gustafson a chic gyfrwys gan y maswr Jason Tovey.

Roedd hyd yn oed hyfforddwr y Gweilch, Jonathan Humphreys, yn gorfod cyfadde’ bod Tovey wedi cael gêm ardderchog.

Y canolwr, Matthew Watkins, a gafodd yr ail, gyda bylchiad o 40 llath at y llinell.

Gyda’r asgellwr Aled Brew yn cael trydydd cais yn syth wedi’r egwyl, doedd perfformiad cryfach y Gweilch yn yr ail hanner ddim yn ddigon.

Fe ddaeth eu ceisiau nhw gan James Hook yn yr hanner cynta’ ac Andre Bishop yn yr ail.

Sêr

Dyma’r tro cynta’ i sêr rhyngwladol y Gweilch ddod yn ôl at ei gilydd wedi’r tymor rhyngwladol ac, yn ôl Jonathan Humphreys, dyna oedd y drafferth.

Roedden nhw wedi methu â chwarae fel yr oedden nhw eisiau, meddai. Roedd y chwaraewyr yn “flin”.

Mae’r Dreigiau bellach yn gyfartal â’r Gweilch ac o fewn pum pwynt i’r ail safle yn y Gynghrair.

Llun: Jason Tovey (O wefan y Dreigiau)