Bydd y bedwaredd Awr y Ddaear flynyddol yn cael ei gynnal heddiw, wrth i oleuadau mewn 120 o wledydd gael eu troi i ffwrdd i dynnu sylw at beryglon newid hinsawdd.
Y gobaith yw y bydd pobol ledled Prydain yn diffodd eu goleuadau pan fydd y cloc yn taro 8:30pm, nos Sadwrn.
“R’yn ni’n gobeithio y bydd pawb o Casablanca i’r gwersylloedd saffari yn Namibia a Tanzania yn cymryd rhan,” meddai Greg Bourne, prif weithredwr WWF Awstralia.
Fe gymerodd China ran am y tro cyntaf y llynedd, ac eleni fe fydd mwy nag 30 o ddinasoedd, gan gynnwys y brifddinas Beijing, yn diffodd eu goleuadau.
Y grŵp amgylcheddol oedd yn gyfrifol am y syniad ac ers y digwyddiad cyntaf o’i fath yn Sydney yn 2007 mae o wedi cyrraedd bob cyfandir.
Penderfyniad i’r unigolyn yw troi’r golau i ffwrdd ai peidio – Ni fydd goleuadau stryd, goleuadau traffig a goleuadau diogelwch eraill yn cael eu heffeithio.