Mae’r Heddlu’n parhau i ymchwilio ar ôl i ddau lanc gael eu saethu â gwn awyr tra’r oedden nhw yn yr ysgol.
Fe gafodd un bachgen ei saethu yn ei goes, ac un arall yn ei frest. Roedd y ddau ar iard Ysgol Uwchradd Brynrefail yn Llanrug ar y pryd.
Mae’n debyg bod y pelenni gwn awyr wedi cael eu saethu o dy cyfagos, yn ôl papur newydd y Daily Post.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r ysgol ar ôl y digwyddiad ar 19 Mawrth a siaradodd swyddogion gyda dau fachgen ifanc oedd wedi dioddef “man anafiadau”.
Dyw’r Heddlu ddim wedi arestio neb mewn cysylltiad â’r digwyddiad eto ac mae’r ymchwiliadau’n parhau.
Yn y cyfamser, mae’r Heddlu wedi dweud eu bod nhw mewn “cysylltiad agos” gyda’r ysgol.