Heno, bydd dwy Gymraes yn brwydro yn erbyn deunaw arall am gyfle i chwarae rhan Dorothy yn sioe gerdd ddiweddaraf Andrew Lloyd Webber, The Wizard of Oz.
Sophie Evans, 17 o Gwmclydach yw un o gystadleuwyr ieuengaf y gystadleuaeth rhaglen Over the Rainbow BBC1.
Fe fydd hi’n cystadlu yn erbyn Claire Hillier, 25, sy’n wreiddiol o Flaengarw, yn ogystal â 18 merch arall am ran yn sioe fyw Lloyd Webber.
Y ddwy
Dywedodd Sophie Evans ei bod hi wedi etifeddu ei llais oddi wrth ei mam. Ar ôl derbyn gwersi canu yn yr ysgol, mae wedi ymddangos mewn sioe yng Nghanolfan y Mileniwm yn ogystal â chyfres y X Factor yn 2008.
Roedd Claire Hillier, sy’n byw yn Llundain gyda’i gŵr yn un o gystadleuwyr cyfres Britain’s Next Top Model 2005 ac mae wedi cyrraedd y 50 uchaf yng nghyfres Popstars hefyd.
Haneru’r cystadleuwyr
Dim ond hanner y cystadleuwyr fydd yn mynd drwodd i’r rownd nesaf heno. Fe fydd y panel yn dewis 10 i fynd ymlaen gystadlu am le Dorothy ar y sioe fyw nesaf.
Mae Over the Rainbow yn dilyn rhaglenni hynod lwyddiannus eraill Andrew Lloyd Webber fel I’d Do Anything a Any Dream Will Do.
Graham Norton fydd yn cyflwyno’r rhaglen a Sheila Hancock, Charlotte Church a John Partridge fydd yn beirniadu.