Mae David Cameron wedi dweud wrth y Blaid Geidwadol fod ganddyn nhw “40 diwrnod a 40 noson” i argyhoeddi’r cyhoedd i gael gwared ar y Blaid Lafur yn yr Etholiad Cyffredinol.

Mae’r polau piniwn wedi closio dros yr wythnosau diwethaf ac fe gyfaddefodd David Cameron y byddai’n “frwydr agos” i sicrhau mwyafrif yn San Steffan.

Ond pwysleisiodd fod gan ei blaid gyfle mawr i ffurfio’r llywodraeth nesaf ar ôl yr etholiad ar 6 Mai.

“Mae’r etholiad yn mynd i fod yn frwydr galed, ac mae’n mynd i fod yn frwydr agos,” meddai wrth gefnogwyr.

‘Pob dydd yn cyfri’

“Dw i ddim eisiau i chi feddwl am y dyddiau fel penwythnosau a gwyliau banc ac yn y blaen. Mae pob un o’r 40 o ddyddiau a 40 nos yna yr un mor bwysig.

“Dyna’r amser sydd gyda ni ar ôl i ennill y ddadl – ydi’r wlad am aros gyda beth sydd ganddi ynteu newid at y Ceidwadwyr?

“Mae angen y newid, yr egni, y symudiad, i symbylu’r economi, a’r wlad, a’n cymdeithas. Mae’n rhaid i’r Torïaid ennill yr etholiad yma – er lles y wlad.

“Nid rhyw syniad ysgafn yw’r newid yr ‘yn ni’n ei gynnig – mae wedi ei seilio ar werthoedd cadarn. “

“Wrth gwrs pwnc pwysicaf yr etholiad yma yw dyfodol yr economi ac mae’n rhaid i ni ennill y frwydr yna.”