Mae Llafur wedi addo gwarchod gwariant cyhoeddus a chefnogi’r adferiad economaidd yng Nghymru, wrth i’r blaid gyhoeddi ei addewidion ar gyfer yr etholiad heddiw.

Wrth i Gordon Brown ddatgelu pum ymrwymiad allweddol y Blaid Lafur ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol fe wnaeth cangen Gymreig y blaid gynnal ei lansiadau ei hun yng ngogledd a de Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Peter Hain mai “ras dau geffyl” rhwng Llafur a’r Torïaid fyddai’r etholiad, gan ychwanegu nad oedd Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn bwysig.

Dywedodd y byddai’r Blaid Lafur yn haneru diffyg ariannol £167 biliwn Prydain gyda “trethi teg” a “toriadau i wariant cyhoeddus sydd ddim yn flaenoriaeth”.

Byddai cael gwared â’r dreth stamp ar bob tŷ dan £250,000 o les i “bron a bod pawb sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru,” meddai.

Fe wnaeth o hefyd addo y byddai’r Blaid Lafur yn adeiladu rheilffordd drydanol rhwng Llundain ag Abertawe a sicrhau mynediad band llydan mewn ardaloedd diarffordd.

Roedd y blaid hefyd yn addo amddiffyn y buddsoddiad yn yr heddlu, ysgolion, gofal plant a’r gwasanaeth iechyd.

Yn ogystal â hynny fe fydden nhw’n “sicrhau tegwch yn y gymuned” gyda sustem mewnfudo newydd, mwy o reolaeth ar ymddygiad gwrthgymdeithasol a hyfforddiant neu swyddi ar gyfer pob person ifanc oedd allan o waith am fwy nag chwe mis.

“I ddechrau, mae’n bwysig deall bod dewis Cymru yn un clir,” meddai Peter Hain. “Byddai’r Torïaid yn peryglu’r adferiad economaidd bregus gyda thoriadau llym.

“Dyw’r Torïaid heb newid a’r unig ymrwymiad economaidd sydd ganddyn nhw ydi torri £200,000 oddi ar drethi’r 150 person mwyaf cyfoethog yng Nghymru.”

Dywedodd bod y “mwyafrif yng Nghymru yn gallu gweld bod y dewis yn un clir – allen ni ddim fforddio llywodraeth Geidwadol”.

“Mae’n ras dau geffyl ac mae Cymru angen llywodraeth Lafur yn San Steffan.”


Cysgod Thatcher

Fe wnaeth Peter Hain amddiffyn y Canghellor Alistair Darling, oedd wedi dweud y byddai toriadau’r Blaid Lafur yn ddyfnach a llymach nag rhai llywodraeth Margaret Thatcher.

“Pwynt Alistair Darling oedd bod y dirwasgiad wedi bod yn ddyfnach ac yn fwy difrifol nag unrhyw beth ydan ni wedi ei weld ers 60, os nad 80, mlynedd,” meddai.

Honnodd y byddai’r Ceidwadwyr yn bygwth ymrwymiadau datganoledig Llafur gan gynnwys presgripsiynau am ddim i bawb yng Nghymru.

“Fe fyddai’n amhosib i’r Torïaid barhau gyda gwasanaethau fel yna os ydyn nhw’n gweithredu’r toriadau y maen nhw’n eu trafod,” meddai.

Byddai cynnig gan ganghellor yr wrthblaid George Osborne i warchod Cymru gan doriadau’r gyllideb argyfwng am flwyddyn yn “dyblu’r poen” y flwyddyn ganlynol, meddai Peter Hain.