Mae 11 o bobol wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng fan eglwys a thryc yn nhalaith Kentucky yn yr Unol Daleithiau.
Roedd cwpwl oedd wedi dyweddïo (dde) a sawl aelod o’u teulu ymysg y rhai fu farw. Dywedodd llefarydd ar ran heddlu’r dalaith, Charles Swiney, bod dau blentyn wedi goroesi’r gwrthdrawiad.
Ar ôl y gwrthdrawiad fe wnaeth y tryc daro wal gerrig a ffrwydro, ac fe fuodd y gyrrwr farw.
Dywedodd gweinidog yr eglwys eu bod nhw’n teithio i briodas yn Iowa, a bod y par dyweddïedig wedi trefnu ei priodas eu hunain ym mis Gorffennaf.
Mae’n debyg bod tŷ’r teulu fu farw wedi llosgi i lawr ym mis Rhagfyr.
“Fe fydden nhw’n priodi yn y nefoedd, amwn i,” meddai Leroy Kauffman, gweinidog y Marrowbone Christian Brotherhood.