Yn ôl yr adarwr a’r darlledwr Iolo Williams mae’r newyddion bod aderyn ysglyfaethus prin wedi’i weld eto yn y Canolbarth yn “newyddion cyffrous dros ben”.
Trigolion ardal gogledd Ceredigion sydd wedi sylwi ar yr aderyn ifanc ar dir fferm, bythefnos ar ôl i eryr ifanc gael ei weld ar Graig yr Aderyn yn Nyffryn Dysynni.
“Dw i’n meddwl mai’r un un yw e,” meddai Russell Jones, warden gwarchodfa RSPB Ynyshir ger Machynlleth. “Mae eryrod ifanc yn crwydro lot mwy na’r oedolion wrth trio dod o hyd i’w diriogaeth ei hun.”
Cewch ddarllen weddill y stori yn Golwg, Mawrth 25