Mae un o brif ffyrdd y gogledd wedi ail agor heddiw ar ôl i ddau o bobl farw ddechrau’r wythnos mewn gwrthdrawiad ar A5 Y Waun.

Dywed Heddlu Gogledd Cymru fod y ffordd osgoi wedi ail agor ar ol i’r awdurdodau fod yn brysur yn adfer y ffordd yn dilyn y gwrthdrawiad ddechrau’r wythnos.
Y Gwrthdrawiad

Fe dderbyniodd yr heddlu adroddiad am wrthdrawiad ar bont yr A5 am 16:23 oedd yn cynnwys dwy lori a dau gar ddydd Llun, 22 Mawrth.

Bu farw un gyrrwr lori ac un gyrrwr car ar y safle.

Roedd un o’r lorïau yn cludo da byw yn ac fe gafodd gwartheg eu lladd yn y gwrthdrawiad hefyd.