Fe fydd Llywodraeth Cymru yn lansio strategaeth newydd i geisio mynd i’r afael â thrais yn erbyn merched heddiw.
Fe fydd Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yn ymweld â Chymorth i Ferched, Llanelli i lansio’r strategaeth.
Mae ‘Hawl i fod yn Ddiogel’ yn rhan o nod tymor hir Llywodraeth Cynulliad Cymru i roi diwedd ar drais yn erbyn merched.
Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod mwy nag un ym mhob pedair o ferched yng Nghymru a Lloegr (4.8miliwn) wedi profi o leiaf un digwyddiad o gam drin yn y cartref a thua 80,000 o ferched yn profi trais rhywiol yn y DU bob blwyddyn.
Ymateb Cymorth i Ferched
“Mae unrhyw beth sydd am helpu merched yn bositif,” meddai Alison Greeley, Cymorth i Ferched yn Aberystwyth.
“Mae’r hawl i fod yn ddiogel yn rhan sylfaenol o fywyd – ond dyw rhai merched ddim yn credu fod ganddyn nhw’r hawl hwnnw. Mae’n broblem anferth a fedrwn ni ddim ei danbrisio mewn unrhyw ffordd,” meddai Alison Greeley.
Pob math o drais
Fe fydd y strategaeth yn mynd i’r afael â phob ffurf trais yn erbyn merched yng Nghymru gan gynnwys trais ac ymosod rhywiol, cam-drin domestig a phriodasau gorfodol.
Fe fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru’n gweithio gyda llywodraeth leol, asiantaethau cyfiawnder troseddol a Llywodraeth y DU.
Ymateb Gweinidog
“Rwy’n credu y bydd y cynllun ‘Hawl i fod yn Ddiogel’ yn rhoi cyfle go iawn i fynd i’r afael â’r problemau cymdeithasol sy’n effeithio cymaint o bobl,” meddai Carl Sargeant.
“Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i daclo anghydraddoldeb merched yn ogystal â delio gyda phroblemau cam-drin yn y cartref.”