Mae cynllun peilot gan Lywodraeth y Cynulliad yn golygu y bydd fitaminau ar gael i wragedd beichiog, mamau sy’n bwydo o’r fron, ac i bob plentyn hyd at bedair oed, yng Nghaerdydd.
Bydd y fitaminau “hanfodol” yn cael ei rhoi am ddim fel rhan o gynllun Cychwyn Iach y Llywodraeth. Mae’r fitaminau eisoes ar gael i deuluoedd sydd ar incwm isel.
Yn ôl y Llywodraeth, mae cymryd fitaminau – ynghyd a bwyta’n iach – yn fodd o sicrhau bod gwragedd beichiog a phlant ifanc yn cael yr holl ddaioni y maen nhw ei angen i gadw’n iach.
Amcan y cynllun peilot yw dod o hyd i’r ffordd orau o ddosbarthu’r fitaminau.
Bydd y canfyddiadau yn cael eu hadolygu ar ôl 12 mis, ac os yw’n llwyddiannus, gall y cynllun gael ei gyflwyno ar draws gweddill Cymru.
Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud fod y rhaglen Cychwyn Iach yn dangos ymrwymiad y Llywodraeth i “atal afiechyd” yng Nghymru.
“Mae pob rhiant am roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i’w plant,” meddai, “felly mae’n bwysig bod mamau beichiog yn gwybod bod y cyfle gorau ganddyn nhw i sicrhau iechyd da i’w hunain ac i’w plant.”
Dim digon o fitaminau
Mae’r Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, wedi dweud nad yw hanner y plant dan bump oed yng ngwledydd Prydain yn cael digon o fitamin A yn eu diet, a bod llawer o blant ifanc yn dioddef o ddiffyg fitamin D.
“Mae angen y fitaminau yma er mwyn i’r plentyn dyfu a datblygu mewn modd iach a normal,” meddai Edwina Hart.
“Gyda’i gilydd bydd y Cynllun Cychwyn Iach cyfredol a’r cynllun peilot newydd yn ei gwneud yn haws i bobl wella’u hiechyd a byw bywyd iachach.”
Cynllun Cychwyn Iach
Yn ôl y Llywodraeth, mae’r fitaminau am ddim yn rhan bwysig o’r Cynllun Cychwyn Iach a sefydlwyd “i roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant ifanc, menywod beichiog a mamau newydd”.
Yn ogystal â’r fitaminau, mae Cychwyn Iach yn cynnig talebau sy’n rhoi llaeth, ffrwythau a llysiau ffres am ddim.