Mae David Cameron wedi dweud heddiw eu bod nhw wedi penderfynu trio am fabi newydd ar ôl marwolaeth ei fab Ivan y llynedd.
Prynhawn ddoe datgelwyd bod Samantha Cameron, 38, yn disgwyl ei phedwerydd plentyn ym mis Medi, sy’n golygu y gallai gael ei eni tra bod ei gŵr yn Rhif 10 Stryd Downing.
Mewn cynhadledd i’r wasg bore ‘ma dywedodd David Cameron, 43 oed, ei fod o wedi derbyn llongyfarchiadau drwy’r bore.
Roedd un newyddiadurwr ffraeth wedi awgrymu fod ei wraig yn “symud tuag at ‘Labour’”.
“Nid dyna fel ydan ni’n ei weld o. Yn amlwg r’yn ni’n gyffrous ynglŷn â chael babi ym mis Medi,” meddai David Cameron.
“Dyw’r amseru ddim yn ddelfrydol yn amlwg ond roedden ni’n awyddus iawn i gael plentyn arall ar ôl marwolaeth Ivan ac weithiau mae hyn yn cymryd sbel.”
Mae disgwyl i Samantha Cameron chwarae rhan allweddol yn yr Etholiad Cyffredinol flwyddyn yma ac roedd y papurau newydd bore ‘ma yn awgrymu y gallai’r beichiogrwydd fod yn ‘fwmp’ i’r Torïaid yn y polau piniwn.