Rhowch iddo fynydd, a beic dwy olwyn, helmed, camera a sach gefn, ac mae Tom Hutton yn hapus.
Yn wreiddiol o Fryste, mae’n byw yn Ystumtuen yng ngogledd Ceredigion – gyda mynyddoedd y Cambrian yn y cefndir.
Fis diwetha’, fe wnaeth gyhoeddi cyfrol Saesneg ar Feicio Mynydd yng Nghymru, sy’n cynnig gwybodaeth am lwybrau beicio mynydd. Mae’r llyfr mewn tair rhan – de, canolbarth, a gogledd Cymru.
Ceir yma lwybrau ym Mannau Brycheiniog, y Mynyddoedd Duon, Sir Benfro, Gŵyr, Cwm Elan, Bryniau Clwyd ac Eryri.
“Y syniad yw helpu beicwyr mynydd i ffeindio’r llwybrau mwya’ boddhaol, i ffwrdd o Ganolfannau Beicio Mynydd y Comisiwn Coedwigaeth – a chael y cyfle i fynd i brofi mynyddoedd Cymru go iawn,” meddai Tom Hutton, sydd wedi bod yn beicio ac yn ffotograffydd ers dros 20 mlynedd.
“I mi, y pleser mwya’ gyda beicio mynydd yw’r her corfforol, a’r cyfle i ymweld â llefydd hynod na fyddech chi’n dod ar eu traws nhw yn y car.”
Mae’n amhosib i ddewis un lle fel ei ffefryn, meddai, ond mae’n cyfadde’ mai ar draws y Mynyddoedd Duon y mae e’n hoffi beicio fwya’.
“Mae Cymru wastad wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi. Hyd yn oed pan oeddwn i’n tyfu lan yn fachgen ym Mryste. Roedd e bob tro’n antur ac yn gyffrous i ddod dros y bont.
“Fy mhrofiad cynta’ o’r mynyddoedd oedd pan es i ar drip gyda’r Clwb Ieuenctid i’r Mynyddoedd Duon, a dw i’n siŵr fy mod i’n iawn i ddweud ei fod wedi newid fy mywyd.
“Erbyn hyn, byswn i byth yn breuddwydio byw yn unman arall, hyd yn oed pan rydyn ni’n gwneud yn wael yn y Chwe Gwlad!”
Ar hyn o bryd, mae ganddo lyfryn arall ar y gweill ar grwydro Eryri, ac ar ôl cwblhau hwnnw, mae e’n gobeithio dechrau gweithio ar lyfryn ar gerdded Bannau Brycheiniog – “fy mhrosiect mwya’ erioed!” meddai.
Wales Mountain Biking/Beicio Mynydd Cymru, Vertebrate Publishing, £15.95