Mae Heddlu De Cymru’n apelio am dystion ar ôl i ddyn farw wedi gwrthdrawiad car ar yr A48 yn Stormy Down, rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a’r Pîl.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am oddeutu 11:00pm, ddydd Llun, 22 Mawrth 2010 rhwng cerbyd Limousine lliw tywyll oedd yn teithio tua’r gorllewin i gyfeiriad Pîl a cherddwr gwrywaidd.
O ganlyniad, bu farw dyn 29 oed o ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn sgil ei anafiadau.
Bydd yr heddlu yn cyhoeddi enw’r gŵr ar ôl rhoi gwybod i’w deulu.
Mae Swyddogion yr Heddlu’n awyddus i siarad ag unrhyw un oedd yn gyrru hyd y rhan hon o’r A48 ar y pryd.
Maen nhw’n arbennig o awyddus i siarad gydag unrhyw un sy’n cofio gweld dyn yn cerdded i’r dwyrain tuag at Ben-y-bont ar Ogwr.
Dylai Tystion gysylltu â’r Uned Plismona Ffyrdd trwy 101, gyda Taclo’r Taclau ar 0800 555 111, neu drwy ymweld â’i gorsaf heddlu agosaf.