Mae’r dyn wnaeth ymosod ar Ian Huntley yn y carchar yn “arwr” sy’n “haeddu medal” yn ôl ei lysfab.
Yn ôl yr adroddiadau, fe wnaeth Damien Fowkes, 34, dorri gwddf Ian Huntley, 36 oed, yn ystod ymosodiad yng Ngharchar Frankland yn Swydd Durham.
Dywedodd ei lysfab Lewis wrth y Sun ei fod o wedi ymosod arno “er mwyn Holly a Jessica ac rydw i eisiau ei ganmol o am wneud”.
“Bydd y rhan fwyaf o bobl yn meddwl bod Damien yn arwr. Mae’n biti na wnaeth o well job ohoni.”
Datgelwyd heddiw y gallai Ian Huntley gael hyd at £20,000 o iawndal yn dilyn yr ymosodiad honedig.
Mae’r Gymdeithas Swyddogion Carchar wedi dweud y gallai erlyn gan ddadlau bod awdurdodau’r carchar wedi methu â’i warchod.
Merch
Dywedodd mam Damien Fowkes fod ganddo ferch tua’r un oed â Holly Wells a Jessica Chapman, gafodd eu lladd gan Ian Huntley yn Soham, yn Swydd Gaergrawnt, yn 2002.
“Mae o’n caru ei ferch gymaint, ac efallai mai dyna oedd y symbyliad.”
Dywedodd y carchar nad yw bywyd Ian Huntley mewn peryg yn sgil yr anafiadau. Daethpwyd o hyd iddo yn gorwedd mewn pwll o waed. Maen nhw’n cynnal ymchwiliad i’r hyn ddigwyddodd.