Mae canolwr Cymru, James Hook wedi dweud bod siâp da ar Gymru cyn eu taith i Seland Newydd dros yr haf.
Fe ddaeth Pencampwriaeth Chwe Gwlad y cochion i ben ar nodyn uchel yn Stadiwm y Mileniwm bnawn Sadwrn, gyda buddugoliaeth 33-10 yn erbyn yr Eidalwyr.
Fe groesodd James Hook y llinell gais ddwywaith.
Edrych ymlaen
Fe fydd Cymru’n wynebu De Affrica yn Stadiwm y Mileniwm ar 5 Mehefin, cyn teithio i Seland Newydd am ddwy gêm brawf yn erbyn y Crysau Duon.
“Fe fydd y fuddugoliaeth yn rhoi hyder mawr i ni ar gyfer taith yr haf,” meddai Hook.
“R’yn ni’n gwybod bod yna lawer o waith i’w wneud, ond fe allwn ni adeiladu ar y fuddugoliaeth yma.”
Siomedig
Mae James Hook yn cydnabod bod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi bod yn un siomedig i Gymru eleni, ac mae’n gobeithio y bydd y tîm yn gallu gwella eu perfformiad dros yr haf.
“R’yn ni am sicrhau bod chwaraewyr, hyfforddwyr a chefnogwyr yn cael beth maen nhw’n haeddu,” meddai. “R’yn ni’n edrych ymlaen.”
Pleidleisiwch dros chwaraewr gorau’r bencampwriaeth yn eich tyb chi yma