Fe gafodd dwsin o bobol gyffredin eu lladd mewn dau ddigwyddiad yn Afghanistan yn ystod y dydd.
Roedd yr ymosodiad gwaetha’ yn Nhalaith Helmand, lle bu farw deg o bobol wrth ddathlu blwyddyn newydd y Zoroastriaid.
Mae’n ymddangos bod huanfomiwr wedi ceisio ymosod ar uned o’r fyddin ryngwladol yno ond wedi methu ei darged.
Roedd yr ymosodiad ar bont lle’r oedd llawer o bobol wedi casglu i ddathlu. Fe gafodd saith arall eu hanafu.
Dau weithiwr gyda chwmni adeiladu a gafodd eu lladd yn yr ail ymosodiad, yn agos at y ffin gyda Phacistan.
Mae’n ymddangos eu bod wedi eu lladd gan fom ymyl-y-ffordd.
Llun: Milwyr yn Afghanistan