Mae cefnogwyr yr Arlywydd Barack Obama’n dweud fod ganddo ddigon o bleidleisiau i sicrhau llwyddiant ei ddiwygiadau iechyd yn yr Unol Daleithiau.

Mae yna bleidlais allweddol yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr heddiw ac fe ddywedodd un o arweinwyr y Democratiaid yno bod ganddyn nhw ddigon o gefnogaeth i gael y 216 o bleidleisiau sydd eu hangen.

Fe fyddai angen un bleidlais arall yn y Senedd i sicrhau bod y newidiadau’n digwydd – a hynny ar ôl misoedd o ymrafael a sawl cyfaddawd ar ran Barack Obama.

Ehangu gofal

Er gwaetha’r glastwreiddio a gorfod gollwng y syniad o gynllun iechyd cyhoeddus, fe fyddai cynigion Obama’n ymestyn yswiriant iechyd i 32 miliwn yn rhagor o bobol y wlad.

Fe fyddai hynny’n golygu bod gan tua 95% o’r boblogaeth rhyw fath o gynllun iechyd; ar ben hynny, fe fyddai mwy o gystadleuaeth rhwng cwmnïau yswiriant a rhagor o reolaeth arnyn nhw.

Fe ddywedodd John Larson, Cadeirydd Carfan y Democratiaid yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr, bod y diwygio yma’n debyg i gerrig milltir mawr eraill yn hanes cymdeithasol yr Unol Daleithiau – budd-dal cymdeithasol dan Franklin D. Roosevelt a Medicare dan Lyndon Johnson.

“Mae’r pleidleisiau gyda ni; r’yn ni’n mynd i greu hanes heddiw,” meddai, a hynny er bod y Gweriniaethwyr yn gwrthwynebu’n ffyrnig ac er bod rhai Democratiaid yn ansicr.