Fe gafodd tri o Balesteiniaid eu saethu mewn dau ddigwyddiad gwahanol yn llain Gaza, a hynny wrth i Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ymweld â’r safle.
Fe alwodd Ban Ki-moon unwaith eto am godi’r blocâd ar y Palesteiniaid ac agor y ffiniau rhwng Israel a Gaza.
Fe addawodd wrth y Palesteiniaid y byddai’r Cenhedloedd Unedig yn sefyll ochr yn ochr â nhw gan ddweud bod y blocâd yn achosi “dioddefaint diangen”.
O’r ochr arall, mae’r Cenhedloedd Unedig eisiau i fudiad Hamas, sy’n rheoli Gaza, addo tri pheth:
• Rhoi’r gorau i drais.
• Cydnabod gwladwriaeth Israel.
• Cymodi gyda Mahmoud Abbas, Arlywydd y Palesteiniaid ar y Lan Orllewinol.
Saethu
Yn y cyfamser, fe gafodd dau o Balesteiniaid eu saethu ar y ffin ar ôl i’r Israeliaid honni eu bod wedi ceisio trywanu milwr.
Mewn digwyddiad gwahanol, fe gafodd un dyn ifanc ei ladd gan fwled yn ystod protest ger dinas Nablus.
Er hynny, roedd awdurdodau Israel yn gwadu bod eu milwyr nhw wedi defnyddio bwledi go iawn .
Llim: Ban Ki-moon