Gyda’r sylw mawr wedi cael ei roi i’r frwydr rhwng Kauto Star a Denman cyn y ras, Imperial Commander sydd wedi ennill Cwpan Aur Cheltenham eleni.
Denman, enillydd ras 2008 oedd yn ail gydag enillydd y Grand National, Mon Mome yn drydydd.
Ond fe fethodd enillydd y Cwpan Aur yn 2007 a 2009, Kauto Star orffen y ras ar ôl cwympo gyda phedwar naid yn weddill.
Gyda diwedd y ras yn agos, fe dynnodd Imperial Commander o dan farchogaeth Paddy Brennan yn glir o Denman i ennill y cwpan am y tro cyntaf.