Barn cynghorydd o Abertawe : achosion tri person ifanc fu farw
Mae’n rhaid “dysgu gwersi a symud ymlaen” meddai un o gynghorwyr Abertawe yn sgil cyhoeddi adolygiadau annibynnol am dri a fu farw yn Abertawe. Mae’r adroddiadau yn nodi fod diffygion yn y ffordd y bu’r gwasanaethau cymdeithasol ac asiantaethau eraill yn gweithredu.
Bu farw Plentyn B ar ôl cymryd gormod o’r cyffur heroin yn Mai 2007 ; bu farw Plentyn D ar ôl cymhlethdodau ddatblygodd yn sgil cymryd cyffuriau yn Ionawr 2008 ; fe gymerodd Plentyn E ei fywyd ei hun yn Ebrill 2008.
‘Heddiw’n wahanol’
“Mae amgylchiadau heddiw’n wahanol iawn i gyfnod y marwolaethau hyn,” meddai Nick Tregoning, Cynghorydd Democratiaid Rhyddfrydol yn Abertawe wrth Golwg360.
“Mae’r sefyllfa ariannol yn well a gwell cydweithrediad rhwng partneriaid ac awdurdodau.”
Dywed mai “mater i’r Dirprwy Weinidog” yw cynnal ymchwiliad cyhoeddus er fod disgwyl i rai o’r cynghorwyr eraill alw am hyn.
“Rydw i’n ddigalon iawn am y marwolaethau hyn,” meddadi Nick Tregoning.
“Ond, rydan ni wedi dysgu gwersi. Dydw i ddim yn siŵr beth fyddai gwerth ymchwiliad cyhoeddus,” meddai cynghorydd etholaeth Dyfnant.
‘Yr un cwestiynau’
Mae’r cynghorydd o’r farn mai symud ymlaen yw’r cam nesaf.
“Pam disgwyl am ganlyniadau ymchwiliad cyhoeddus? Byddai yn gofyn yr un cwestiynau ac yn dod i’r un casgliadau.”
Fe ddywedodd cynghorydd arall, John Newbury, wrth Golwg360 ei bod hi’n gynfod o “gyfnod i gnoi cil ar yr adroddiad.”
Dywed Chris Maggs, Cadeirydd Bwrdd Diogelu Plant Abertawe sy’n cynnwys cynrychiolwr o’r holl asiantaethau, fod y Bwrdd yn benderfynol o ddysgu gwersi o’r adolygiadau yma ac fe ymddiheurodd am “wneud cam a’r plant.”
Llun : Chris Maggs