Mae criw o rieni wedi bod yn protestio yn Llandrindod heddiw wrth i gynghorwyr drafod argymhellion ar gyfer diwygio addysg ym Mhowys.
Roedden nhw’n protestio am gynlluniau sy’n cael eu hystyried gan Gyngor Powys allai arwain at gau hyd at saith o ysgolion uwchradd y sir. Byddai canolfannau dysgu a chanolfannau rhagoriaeth yn cael eu sefydlu yn eu lle.
Cefnogi
Mae un o lywodraethwyr Ysgol Uwchradd Llanidloes wedi cefnogi protest y rhieni heddiw.
Yn ôl David Jones, mae’n credu fod pawb yn derbyn fod yn rhaid gwneud arbedion, ond nid yw’n cytuno â’r cynlluniau y mae’r cyngor yn eu hystyried.
Mae’n honni fod y cynlluniau yn “gwanhau” addysg Gymraeg yn y sir.
Tynnodd sylw at y daith hir a fyddai’n wynebu rhai disgyblion er mwyn cael addysg Gymraeg.
“Mae hi’n 28 milltir o Lanidloes i’r Trallwng” meddai wrth golwg360, “sy’n golygu byddai plant yn teithio 56 milltir y dydd nôl a mlaen.”
Yn lle’r cynlluniau yma, awgrymodd y dylai ysgolion y sir gydweithio mwy â’i gilydd wrth ddysgu rhai pynciau a chymryd mantais o dechnoleg, gan gynnwys cyfathrebu rhwng ysgolion dros gysylltiad fideo.
Y cynlluniau
Mae’r cynlluniau sy’n cael eu hystyried gan y Cyngor yn cynnwys cau ysgolion uwchradd Llanidloes, Crughywel, Gwernyfed, Llanfyllin, Caereinion, Llandrindod a Llanfair ym Muallt.
Byddai dwy ganolfan wedyn yn cael eu hagor ar gyfer plant rhwng 11 a 18 oed yn Aberhonddu ac yn y Drenewydd, yn ogystal â dwy ganolfan ddwyieithog yn y Trallwng ac yn Llandrindod.
Byddai’r chweched dosbarth yn dod i ben yn ysgolion Ystradgynlais, Machynlleth a Llanandras – dim ond Machynlleth a fyddai’n cynnig addysg ddwyieithog. Byddai ysgolion cynradd hefyd yn cael eu huno â’r tair ysgol yma.