Mae llyfr wedi cael ei ddychwelyd i lyfrgell yn Ne Swydd Efrog 45 mlynedd yn hwyr meddai staff heddiw.

Doedd llyfrgellwyr yn Llyfrgell Dinnington, De Swydd Efrog ddim yn gallu credu’r peth pan wnaethon nhw dderbyn pecyn yn cynnwys argraffiad cyntaf Penguin, Quatermass and the Pit gan Nigel Kneale, a gafodd ei fenthyg ym mis Medi 1965.

Doedd cyfeiriad y person oedd wedi ei yrru ddim ar y parsel. Ond doedd dim rhaid i’r sawl oedd wedi’i yrru boeni am dderbyn dirwy fawr – gan fod gyda Chyngor Rotherham bolisi o gyfyngu holl ddirwyon llyfrau i £6.

Mae’r llyfrgell yn rhoi dirwyon o 15c y dydd am lyfrau hwyr. Os na fyddai cyfyngiad ar ddirwyon – byddai’r benthyciwr wedi bod yn agored i ddirwy o tua £ 2,500 o bunnoedd.