Heno, fe fydd y band Yucatan yn canu yn nhafarn y Morgan Lloyd yng Nghaernarfon i nodi blwyddyn o gigs a cherddoriaeth.

Mae’r dafarn wedi cynnal nosweithiau cerddoriaeth bob nos Wener ers blwyddyn yn ogystal â rhai gigs ar nosweithiau Sadwrn – gan ddod â’r cyfanswm i 73!

“’Mae’r Morgan Lloyd wedi dod â cherddoriaeth Gymraeg yn ôl i ganol dre,” meddai Angharad Anwyl, perchennog y dafarn wrth Golwg360.

Meddai Dilwyn Llwyd, trefnydd gigs Morgan Lloyd, sylfaenydd a phrif leisydd band Yucatan:

“’Da ni’n edrych ymlaen yn arw at nos fory.

“Wrth drefnu, dw i’n trio’i gadw fo mor ddiddorol â phosibl a chreu awyrgylch braf.”

Cyfle i’r ifanc

“…Mae lot o fandiau ifanc yn cael cyfle i chwarae yn nhafarn y Morgan Lloyd. Rydw i hefyd yn gadael i fandiau ymarfer am ddim yno – gan ddefnyddio’r gofod a’r offer,” meddai Angharad Anwyl.

Mae’r dafarn wedi rhoi llwyfan i lawer o fandiau ifanc newydd yn ogystal â’r “hen stêjars” dywedodd.

“Roedd Tecwyn Ifan yn synnu bod ‘na gymaint o bobl ifanc yn gwybod ei eiriau o,” meddai.

Llwnc destun i flwyddyn arall!

Ar ôl y Pasg, fe fydd y dafarn yn cynnal nosweithiau di-alcohol i bobl ifanc gyda bandiau a cherddoriaeth.

Yn y dyfodol, mae Angharad Anwyl yn gobeithio “denu bandiau ac enwau mwy” yn ogystal â pharhau i ddarparu llwyfan ar gyfer talent leol.

Bydd Parti ‘Pethe Coll’ gydag Yucatan a Clockwork Radio yn cael ei gynnal yn nhafarn y Morgan Lloyd heno 19/3/10 (ddydd Gwener.)