Mae tîm saith bob ochr Cymru wedi achosi sioc gyda buddugoliaeth 17-12 yn erbyn Fiji yng nghymal Awstralia o’r gyfres.

Fe aeth Fiji 12-0 ar y blaen wedi ceisiau gan Setefano Cakau a Nasoni Roko yn yr hanner cyntaf.

Ond ‘nôl daeth Cymru gyda Justin Tipuric yn sgorio i wneud y sgôr yn 21-5 cyn yr egwyl.

Cafodd Cymru’r dechrau perffaith i’r ail hanner gyda Chris Morgan yn sgorio wedi 30 eiliad, gyda throsiad llwyddiannus Rhys Jones yn unioni’r sgôr.

Wedi tair munud o’r ail hanner fe ddangosodd y dyfarnwr y garden felen i chwaraewr Fiji, Osea Kolinisau.

Manteisiodd Cymru ar y dyn ychwanegol gyda thrydydd cais o’r gêm munud yn ddiweddarach i sicrhau buddugoliaeth addawol iawn i dîm Paul John.

Mae gan Gymru gyfle gwych i ennill eu lle yn rownd nesaf y gystadleuaeth gyda gemau yn erbyn Kenya a Papua New Guinea i’w chwarae yfory.