Mae maswr yr Eidal, Craig Gower wedi galw ar ei gyd-chwaraewyr i fod yn wyliadwrus o Gymru wrth iddyn nhw geisio osgoi’r llwy bren yng ngêm olaf y Chwe Gwlad yfory.

Pe byddai’r Alban yn curo Iwerddon a’r Eidalwyr yn llwyddo yn erbyn Cymru yn Stadiwm y Mileniwm, fe fyddai tîm Warren Gatland yn gorffen ar waelod y tabl.

Ond dyw Gower ddim yn credu bydd perfformiadau siomedig Cymru yn effeithio ar eu gêm yfory.

“Nid wyf yn credu bod Cymru’n fregus”, meddai Craig Gower.

“Fe fyddwn nhw’n dod allan i chwarae gêm dda, ac fe fydd yn her fawr i ni”

Mae’r maswr yn credu bod rhaid i’r Eidalwyr sicrhau bod y pethau bach yn cael eu gwneud yn gywir.

“Ry’ ni’n defnyddio mwy o’r bêl nag o’r blaen- ond mae’n rhaid i ni wneud y pethau bach yn gywir.”

“Ry’ ni’n adeiladu tîm ac rydym yn awyddus i ddechrau ennill gemau oddi cartref”, ychwanegodd Gower.