Mae amddiffynnwr Caerdydd, Gabor Gyepes ar gael i chwarae yn erbyn Watford dydd Sul ar ôl gwella o anaf.

Mae’r newyddion yn hwb mawr i reolwr yr Adar Glas, Dave Jones sydd eisoes wedi colli Kevin McNaughton ar gyfer y gêm oherwydd anaf a gafodd yn erbyn Coventry.

Bu rhaid i’r chwaraewr amryddawn ifanc, Darcy Blake chwarae fel amddiffynnwr am ran o’r gêm hynny.

Er i Blake perfformio’n dda yn y safle , fe fydd rheolwr Caerdydd yn falch o allu galw ar brofiad Gyepes i wynebu Watford.

‘Trobwynt’

Mae un o amddiffynwyr eraill Caerdydd, Anthony Gerrard yn credu bod y fuddugoliaeth yn erbyn Coventry yn ystod yr wythnos yn drobwynt yn nhymor y clwb.

Roedd yr Adar Glas wedi colli pedair gêm yn olynol oddi cartref cyn y fuddugoliaeth yn y Ricoh Arena.

“Ry’ ni wedi cael gemau anodd yn ddiweddar gyda nifer o’r rhain yn gemau oddi cartref- mae hynny’n gallu blino chwaraewyr”, meddai’r amddiffynnwr wrth bapur newydd yr Echo.