Cyhoeddi adolygiadau ar ôl i dri farw yn ardal Abertawe
Roedd diffygion yn y ffordd yr oedd y gwasanaethau cymdeithasol yn Abertawe yn gweithredu yn y cyfnod pan fu farw tri o bobol ifanc yn ôl adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi.
Bu farw Plentyn B ar ôl cymeryd gormod o’r cyffur heroin yn Mai 2007 ; bu farw Plentyn D ar ôl cymhlethdodau ddatblygodd yn sgil cymeryd cyffuriau yn Ionawr 2008 ; fe gymerodd Plentyn E ei fywyd ei hun yn Ebrill 2008.
Heddiw mae Bwrdd Diogelu Plant Abertawe wedi cyhoeddi adolygiadau annibynnol am y tri ac mewn datganiad dywed y Bwrdd fod “ y tri achos difrifol yma yn tynnu sylw at bryderon ynglŷn ag ansawdd gweithdrefnau amddiffyn plant, rhannu gwybodaeth a gweithio ar y cyd rhwng asiantaethau.”
Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd, Chris Maggs, eu bod yn benderfynol o ddysgu gwersi o’r adolygiadau yma ac fe ymddiheurodd am “adael y plant yma i lawr.”
Ymateb Cyngor Abertawe
Wrth ymateb i’r adolygiadau, dywedodd Steve Walker, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Cyngor Abertawe:
“Mae’n edifar iawn gennym y bu diffygion yn ein gweithdrefnau amddiffyn plant yn y cyfnod pan fu’r gwasanaethau cymdeithasol yn ymwneud â’r bobl ifanc hyn.
“Credwn bod y diffygion hynny wedi arwain at benderfyniadau annoeth wrth reoli’r achosion hyn ac rydym yn ymddiheuro’n ddiamod am hyn.
“Hoffwn dawelu meddyliau pobol gan ddweud ein bod wedi cymryd nifer o gamau dros i ddwy flynedd ddiwethaf i leihau’r perygl o hyn yn digwydd yn y dyfodol.
Barn awdur yr adolygiadau
Dywedodd y bargyfreithiwr David Spicer, awdur yr adolygiadau i achosion Plentyn B a Plentyn D fod y ddau achos yn debyg er nad oedd cysylltiad rhyngddyn nhw.
“Mae’r ddau yn ymwneud â phobol ifanc fu farw am eu bod wedi bod yn cymeryd cyffuriau ac roedd gan y ddau gefndir teuluol anodd.
“Un o’r prif broblemau oedd nad oedd gofynion y gyfraith a chanllawiau’r llywodraeth wedi eu gweithredu’n iawn ac nad oedd y penderfyniadau wedi eu gwneud ar sail yr holl wybodaeth berthnasol gyda chyfraniadau gan pob un o’r asiantaethau.
“Roedd hyn yn cael effaith ar ansawdd y penderfyniadau a wnaed.”
LLUN : Chris Maggs, Cadeirydd Bwrdd Diogelu Plant Abertawe