Mae’r wraig a ddatgelodd lygredd mewn rhaglen gymunedol ger Wrecsam wedi gwneud cwyn yn erbyn Heddlu Gogledd Cymru ac awdurdodau eraill.

Mae Mandy Bostwick yn dweud ei bod hi wedi cael ei phardduo a’i bod wedi colli gwaith ar ôl iddi wneud cwynion yn erbyn Partneriaeth Cymunedau’n Gyntaf ym Mhlas Madoc Acrefair.

Y gwyn honno a arweiniodd yn y pen draw at adroddiad damniol gan Swyddfa Archwilio Cymru a honiadau am ddiffyg rheolaeth tros ddegau o filoedd o bunnoedd.

Mae Mandy Bostwich hefyd yn dweud bod ei bywyd wedi’i fygwth oherwydd ei chwynion a bod ei char wedi’i ddifrodi.

Yr heddlu

Mae Mandy Bostwick yn aros am ddyfarniad ar ail apêl gyda Chomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu ac wedi dechrau achos cyfreithiol yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Wrecsam a’r Bwrdd Iechyd Lleol.

Ar un adeg, meddai, roedd wedi cael ei bygwth gyda chyllell ond roedd arni ormod o ofn mynd at yr heddlu oherwydd bod dau swyddog lleol yn agos at y Bartneriaeth.

Hanfod ei chwyn yn erbyn Heddlu Gogledd Cymru oedd bod y ddau swyddog wedi sgrifennu llythyr at y Bartneriaeth yn ei phardduo a bod hwnnw wedyn wedi cael ei anfon at gyrff lleol er mwyn ei hatal hi rhag cael gwaith.

A hithau’n cynnig gwasanaethau cwnsela ym maes iechyd ac ar ei liwt ei hun, roedd hi wedi colli gwaith oherwydd yr honiadau.

Apelio

Ar ôl i’r Heddlu eu hunain ymchwilio i’w chwyn, roedd hi’n anfodlon ar y canlyniad ac fe apeliodd at y Comisiwn. Fe benderfynodd hwnnw o’i phlaid a gorchymyn i Heddlu Gogledd Cymru ymchwilio ymhellach.

Ar ôl ail ddyfarniad gan yr Heddlu, mae Mandy Bostwick wedi apelio eto ac mae’r apêl hwnnw’n cael ei ystyried ar hyn o bryd.

Fe ofynnodd y Comisiwn am ragor o wybodaeth gan y ddwy ochr ac, yn ôl llefarydd, fe fydd hi’n cymryd rhai wythnosau eto cyn dod i benderfyniad.

‘Ffiaidd’

“Mae’r ffordd y mae’r heddlu wedi delio gyda hyn yn ffiaidd,” meddai Mandy Bostwick wrth Golwg 360. “Mae’r cyfan wedi bod yn drwblus iawn i mi.”

Yn ogystal â chael rhywun yn ei bygwth gyda chyllell ar Stad Plas Madoc – gan ei rhybuddio y byddai’n cael ei lladd pe bai’n parhau gyda’i chwynion – mae’n dweud bod ei char wedi’i ddifrodi.

Roedd hi’n poeni cymaint am ddiogelwch ei mab bychan fel ei bod wedi mynd at yr heddlu yn ei phentre’i hun i ofyn am eu help.

Doedd hi ddim eisiau i Golwg360 gyhoeddi llun ohoni rhag ofn y byddai hynny’n arwain at broblemau pellach.

Galw am ymchwiliad

Mae Mandy Bostwick wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i’r llygredd o fewn Partneriaeth Cymunedau’n Gyntaf ym Mhlas Madoc ac i’r ffordd y cafodd ei chwynion eu trin.

Roedd nifer rheolwyr cenedlaethol Cymunedau’n Gyntaf wedi methu â gweithredu, meddai, ac roedd hi’n anodd iawn cael pobol i ddelio â’i chwyn.

Mae ei galwad wedi ei chefnogi gan yr AC rhanbarthol, Janet Ryder.

Mae Partneriaeth Cymunedau’n Gyntaf Plas Madoc wedi dweud nad ydyn nhw am wneud datganiad pellach nes y bydd eu Bwrdd Ymddiriedolwyr wedi gallu ystyried adroddiad y Swyddfa Archwilio.

Rhagor am y stori fan hyn

Llun: Plas Madoc