Mae profion gwyddonol wedi dangos bod dyn 46 oed o Ddwyrain Sussex wedi marw o wenwyn mephedrone.

Mae’r cyffur yn y newyddion oherwydd amheuon bod dau ddyn ifanc yng ngogledd Lloegr hefyd wedi marw ar ôl ei gymryd – er ei fod yn gyfreithlon ar hyn o bryd.

Roedd John Sterling Smith wedi cael trawiad ar y galon yn ei gartref yn Hove ddechrau Chwefror ac mae profion tocsicoleg bellach wedi cadarnhau ei fod wedi marw ar ôl cymryd mephedrone.

Mae hwnnw’n debyg i ecstasi ond ar gael ar hyn o bryd ar ffurf bwyd planhigion. Mae’n cael ei alw yn nifer o enwau gwahanol gan gynnwys M-Cat a meow meow.

Fe gafodd dau ddyn eu harestio ar amheuaeth o droseddau’n ymwneud â chyffuriau ar ôl marwolaeth Louis Wainwright, 18, a Nicholas Smith, 19, o ardal Scunthorpe ddydd Llun. Maen nhw wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Ers hynny, mae’r pwysau wedi cynyddu ar i Lywodraeth Prydain wahardd y cyffur ac mae disgwyl i’r panel ymgynghorol ar gyffuriau roi dyfarniad ddiwedd y mis.

Fe fydd cwest i farwolaeth John Sterling Smith yn cael ei gynnal ar 27 Mai.