Fe ddaeth yn amlwg bod yr heddlu wario £273,000 i ddiogelu Tony Blair wrth iddo roi tystiolaeth yn yr ymchwiliad i Ryfel Irac.
Yn ôl Heddlu Llundain, fe allai’r cyfanswm fod hyd yn oed yn uwch.
Roedd cannoedd o swyddogion yn rhan o’r gwaith o warchod y cyn Brif Weinidog wrth iddo wynebu protestwyr ffyrnig y tu allan. Roedd hynny’n cynnwys 657 o blismyn a 28 o weithwyr sifil.
Fe gafodd Tony Blair ei feirniadu ar ôl sleifio i mewn i adeilad yr ymchwiliad am chwarter wedi saith y bore, cyn i’r rhan fwya’ o brotestwyr gyrraedd. Roedd wedi gadael trwy ddrws ochr hefyd er mwyn eu hosgoi.
Yn ystod ei chwe awr prawf yn rhoi tystiolaeth, fe fu’r cyn Brîf Weinidog yn amddiffyn y rhyfel gan fynnu nad oedd yn difaru cael gwared ar yr unben, Saddam Hussein. Mae hefyd wedi mynnu nad “celwydd” am arfau oedd sail y rhyfel .
“Anhygoel”
Yn ôl Lindsey German, Cynullydd y Stop The War Coalition, mae’n anodd credu maint y gost.
Meddai: “Mae’n anhygoel bod cymaint o arian wedi ei wario ar amddiffyn rhyfel troseddol. Byddai wedi bod yn llawer rhatach i’w arestio yn hytrach na’i amddiffyn.
“Mae’r wybodaeth wedi dod ar ddiwrnod pan fydd prifysgolion yn cael eu cyllidebau wedi’u torri. Rydym hefyd wedi dysgu bod Blair wedi cael ei dalu gan gwmni olew yn Ne Korea oedd â buddiannau yn Irac.”
Llun: Tony Blair yn yr Ymchwiliad (Gwifren PA)