Mae gwerthwr tai o dde Cymru wedi cael ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar am ei ran mewn twyll i gael mwy na £270,000 oddi ar fenyw 76 oed .
Fe blediodd Sean White, 25 oed o Stryd Glenroy, Caerdydd, yn euog yn Llys y Goron Caerdydd i ddau achos o brosesu a ‘glanhau’ arian a ddaeth trwy dwyll.
Cafodd ei gyhuddo o dderbyn £115,000 i mewn i’w gyfri’ banc oddi wrth Anne Cornock o Sili ger Penarth ac yna ei dynnu allan a’i roi i unigolion dienw.
Yn ôl Heddlu De Cymru, dyma oedd un o’r achosion gwaetha’ o dwyll iddyn nhw ddod ar ei draws ac maen nhw’n dal i chwilio am y bobol a aeth â’r arian oddi ar y wraig, a fu farw o ganser cyn y Nadolig y llynedd.
Twyll
Fe gychwynnodd y cyfan ar ôl i waith gael ei wneud ar do a llwybr cartref Anne Cornock.
Rai misoedd yn ddiweddarach, fe gafodd y fenyw ei thargedu gan rywun yn honni iddi dalu gormod am y gwaith ag y gallen nhw ei helpu i gael arian yn ôl.
Dros y misoedd nesaf, fe gysylltodd amryw o bobol yn cysylltu gyda hi yn dweud bod angen talu rhagor cyn cael yr ad-daliad.
O fis Gorffennaf 2008 ymlaen fe dynnodd Anne Cornock £272,310 o’i chyfri’ banc, gyda pheth yn mynd i gyfri’ Sean White a’r gweddill yn cael ei gasglu o’i chartref gan wahanol bobol.
Does dim tystiolaeth bod y gwaith adeiladu ar ei chartref yn gysylltiedig â’r twyll diweddaraf.
Gwyliadwrus
Mae Heddlu De Cymru yn annog trigolion i fod yn wyliadwrus o dwyllwyr ac i gysylltu gyda hwy am unrhyw ymwelwyr amheus i’w cartrefi.
“Dyma un o’r achosion mwyaf difrifol o dwyll r’yn ni wedi gweld yn ne Cymru, ac fe gafodd effaith ddinistriol ar y fenyw oedrannus, sydd ers hynny wedi marw. Mae ein meddyliau gyda’i theulu”, meddai’r Ditectif Arolygwr, Steven Benson-Davison.
Mab Anne Cornock yw gohebydd gwleidyddol BBC Wales, David Cornock.