Cymru yw’r tîm gwaetha’ ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, meddai’r cyn-ddyfarnwr a’r sylwebydd rygbi, Alun Wyn Bevan.
Yn ei golofn yn y cylchgrawn Golwg, mae’n honni bod chwaraewyr wedi eu cynnwys yn y tîm pan nad oedden nhw’n ffit i wneud hynny.
“Dw i’n sicr fy marn fod y tîm hyfforddi presennol wedi cynnwys chwaraewyr ar gyfer Pencampwriaeth 2010 sydd ddim wedi bod ar dop eu gêm ac o bryd i’w gilydd yn cario anaf.
“Slawer dydd, roedd chwaraewyr yn gorfod chwarae gêm gyfan i brofi, heb unrhyw amheuaeth, eu bod nhw wedi gwella’n llwyr
“Mae’n rhyfedd gyda fi bod yr arbenigwyr ffisegol yn caniatáu i chwaraewyr chwarae mewn gêm ryngwladol o flaen miliynau heb brofi’i ffitrwydd mewn gêm gystadleuol.”
Rhybudd
Mae’n rhybuddio bod amser mwy caled fyth i ddod wrth i Gymru wynebu De Affrica a Seland Newydd ddechrau’r haf.
“Fe fyddai’n well petai Undeb Rygbi Cymru wedi trefnu gemau yn erbyn Sbaen a Phortiwgal,” meddai.
Gweddill y sylwadau yn Golwg yr wythnos hon