Mae un o gyfansoddwyr amlycaf Cymru wedi creu cerddoriaeth i blant bach sy’n defnyddio dwy bram.

Fe fydd Cerddoriaeth i Bramiau gan Guto Pryderi Puw yn cael ei berfformio am y tro cyntaf i blant ar stad Maesgeirchen, Bangor, fel rhan o ddegfed Wŷl Gerdd y ddinas.

“Fe fydd dau o fyfyrwyr y Brifysgol yn defnyddio ffyn taro a gwahanol offerynnau yn ystod y cyflwyniad,” meddai Guto Puw o Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor.

“Mae yna synau difyr yn dod o bram – o’r olwynion, y pedal cloi a’r corff metel.”


Sŵn plant

“Fy fydd y perfformiad yn cynnwys synau anifeiliaid hefyd – brogaod a hwyaid,” meddai

“Rhyw fath o archwiliad seinyddol ydi o yn cael ei gyflwyno i blant dan bump oed mewn ffordd ysgafn er mwyn rhoi profiad cerddorol byw iddyn nhw sy’n deillio o’u profiadau eu hunain.

“Rwy’n tynnu ar fy mhrofiad o fod yn dad i ddwy ferch fach.”

Gwaith newydd arall

Fe fydd Guto Puw yn cyflwyno gwaith newydd o naws gwahanol yn yr Ŵyl eleni hefyd .

Bydd darnau comisiwn ganddo ef fel Cyfansoddwr Preswyl y Gerddorfa a gwaith newydd gan Adrian Williams ac Andrew Lewis yn cael eu perfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar Mawrth 26. Dyma’r tro cyntaf i’r Gerddorfa ymweld â’r Ŵyl.

Fory fe fydd y pianydd Iwan Llewelyn-Jones yn cynnal gweithdy cyfansoddi a chyngerdd.

Mwy o fanylion am Gŵyl Gerdd Bangor : www.ggnb.co.uk