Mae’r chwaraewr ieuengaf erioed i gynrychioli Cymru ar y maes rygbi, yn bwriadu dilyn cyngor ei gapten pan fydd yn creu hanes yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.

“Rwy’ i wedi siarad gyda Ryan Jones, ac mae e wedi dweud wrtha’ i am chwarae fy ngêm arferol ac i beidio ceisio gwthio pethau i ddigwydd,” meddai Tom Prydie.

“Ro’n i’n methu credu’r peth pan gafodd y tîm ei gyhoeddi – ro’n i’n crynu. Mae fy mreuddwyd wedi cael ei gwireddu.

“Ers yn blentyn, ro’n i am chwarae dros Gymru,” meddai. “Rwy’ i wedi tyfu lan yn gwylio chwaraewyr fel Shane Williams, Stephen Jones a James Hook.

“R’ych chi’n dysgu llawer wrth chwarae gyda chwaraewyr o’r safon yna.”

“Mae’n seren” meddai Shane

Mae Shane Williams, cyd-chwaraewr Prydie, yn credu bod gan yr asgellwr ifanc y dalent i fod yn seren ddisglair yn y dyfodol.

“Mae’n foi ifanc gyda thalent sydd ei hangen i fod yn chwaraewr gwych,” meddai.

“Rwy’n hapus iawn ei fod e’n cael y cyfle ddydd Sadwrn. Mae wedi ymarfer yn dda iawn gyda’r garfan, a does dim amheuaeth y bydd e’n cael gêm dda.”


Y dyddiadau

Fe fydd Prydie yn 18 oed a 27 diwrnod pan fydd yn wynebu’r Eidalwyr ddydd Sadwrn, ac fe fydd yn torri record Norman Biggs o 23 diwrnod.

Fe chwaraeodd Biggs, a oedd hefyd yn asgellwr, dros Gymru pan oedd e’n 18 oed a 50 diwrnod. Roedd hynny’n erbyn Brodorion Seland Newydd yn 1888.