Mae un o Aelodau Seneddol Plaid Cymru, wedi galw ar Lywodraeth Daleithiol Chubut i ddal gafael ar y gwyliau cyhoeddus sy’n nodi dylanwad y Gymraeg ar Batagonia.
Mae’r Llywodraeth yn yr Ariannin yn awrgymru anghofio’r arfer o gymryd dau ddiwrnod o wyliau cyhoeddus ar Ebrill 30 a Gorffennaf 28 bob blwyddyn.
Mae Ebrill 30 yn nodi dyddiad refferendwm yng Nghwm Hyfryd yn yr Andes, lle penderfynodd y boblogaeth (mwyafrif Cymraeg) i aros yn rhan o’r Ariannin, yn hytrach na throsglwyddo’u tir i Chile.
Mae Gorffennaf 28 yn nodi dyddiad glaniad y mewnfudwyr Cymreig cyntaf i Batagonia yn 1865.
Pwysig
“Mae’r gwyliau hyn yn dathlu pwysigrwydd y Cymry yn natblygiad y Patagonia fodern…” meddai Hywel Williams, AS Caernarfon.
“Heb y Cymry, a dyfodiad y rhai hynny sy’n cael ei dathlu ar yr 28ain o Orffennaf, a’u dewis hwy yn yr Andes i roi’r cwmpas mynyddog i’r Ariannin, byddai Patagonia yn lle cwbwl wahanol.
“Fe ddylai’r Llywodraeth gadw’r gwyliau fel nod o barch tuag at y gymuned Gymreig ym Mhatagonia.”
Ymgyrch Facebook
Eisoes, mae grŵp ymgyrchu Facebook wedi’i sefydlu i brotestio cynlluniau’r Llywodraeth.
Ond doedd Ysgrifennydd Cymdeithas Cymru-Patagonia ddim yn ymwybodol o hyn, nes i Golwg360 gysylltu gydag o.
“Roedd clywed y newydd yma yn gryn syndod i mi,” meddai Ceris Gruffudd o Benrhyn-coch. “Mae’r gwyliau hyn yn golygu llawer i drigolion Dyffryn Camwy a’r Andes.
“Mae llawer yn digwydd i ddathlu Gwyl y Glaniad yn flynyddol, ac oni bai am y Cymry yn yr Andes ni fyddai y darn yna o wlad yn rhan o’r Ariannin. Mae’n anodd meddwl y byddai mwyafrif Aelodau Senedd Chubut o blaid hyn.”