Mae adroddiadau fod tri o bobol wedi cael eu harestio yng Nghatalunia mewn cysylltiad â herwgipiad bachgen pump oed ym Mhacistan.

Yn ôl adroddiadau yn y wasg yn Sbaen, fe gafodd dau ddyn o Bacistan ac un wraig o Romania eu harestio yn agos i ddinas Tarragona yn ne Catalunia.

Cipio Sahil

Fe gafodd Sahil Saeed, sy’n dod o Oldham ger Manceinion, ei ddarganfod yn fyw ac yn iach ddoe. Fe gafodd ei herwgipio bron i bythefnos yn ôl tra’n ymweld â’i deulu ym Mhacistan yng nghwmni ei dad.

Roedd yr herwgipwyr wedi mynnu £100,000 am ryddhau’r bachgen. Er nad oes tystiolaeth bendant, yr amheuaeth yw bod tad y bachgen wedi talu’r arian. Fe ddaeth ef yn ôl i wledydd Prydain yr wythnos ddiwethaf, yn groes i gyngor yr heddlu.