Roedd y cymdeithasegwr a gafodd le amlwg yn trafod y Gymraeg ar un o raglenni’r BBC wedi dweud y dylai’r iaith gael marw.

Roedd Christie Davies wedi dweud mewn erthygl ddadleuol yn 1997 bod dysgu’r Gymraeg “o ddim iws i neb”, y dylai gael ei gadael i farw ac wedyn ei hastudio fel Lladin neu Roeg.

Fe dynnodd nyth cacwn yn ei ben ar y pryd ond mae’n dweud mai tynnu coes oedd hynny – un o nifer o erthyglau y mae wedi eu sgrifennu yn fwriadol er mwyn profocio.

Gwarchodfa iaith

Ond mae’r Athro Cymdeithaseg o Reading wedi tynnu pobol i’w ben unwaith eto trwy alw am Gaeltacht Cymraeg yng Ngwynedd ar gyfer pobol sy’n siarad Cymraeg yn rhugl.

Ar y rhaglen Week in Week Out neithiwr, fe alwodd am ryw fath o warchodfa iaith yn y Gogledd-orllewin, yn hytrach na cheisio hybu dwyieithrwydd ar draws Cymru.

Heb gadarnle, meddai Christie Davies, fe fydd yr iaith yn marw a, thynnu coes neu beidio, mae o ddifri’n credu bod ceisio creu Cymru ddwyieithog yn wastraff amser.

Fe ddywedodd wrth Golwg 360 nad oedd plant o gartrefi di-Gymraeg a oedd yn mynd i ysgolion Cymraeg yn dod i ddefnyddio’r iaith yn llawn.


Pwy ydi Christie Davies?

Mae’n dod o Abertawe, wedi ei fagu ar aelwyd heb y Gymraeg. Ond roedd ei dad-cu o ogledd Gwyr yn Gymro Cymraeg rhugl ac fe fyddai ei dad hefyd wedi cael yr iaith yn blentyn.

Mae wedi cyhoeddi llyfr o straeon Cymreig i blant gyda Gwasg y Lolfa ac yn dweud bod Cymru’n rhan hanfodol ohono.

Ond dyw e ddim yn arbenigwr iaith ac fe wnaeth ei ddatganiad ar y teledu a ôl astudio ystadegau’r Gymraeg. Mae wedi byw yn Lloegr ers degawdau.


Yr erthygl ddadleuol

Yn y Times Higher Education y cyhoeddodd ei erthygl ddadleuol am yr iaith yn 1997, gan honni bod y Gymraeg i rai yn ffurf arall ar “arwahanrwydd a brad”.

Honiad bod y Gymraeg yn y gorffennol wedi dal Cymru’n ôl, yn wahanol i Gernyw a oedd wedi ei “rhyddhau” rhag y Gernyweg.

Fe ddylai pob disgybl yng Nghymru gael hawl di-wad i gael addysg trwy gyfrwng y Saesneg, meddai, a dylai pob disgybl gael yr hawl i beidio â dysgu Cymraeg.

Fe arweiniodd yr erthygl at alwadau am ei sacio o’i swydd ym Mhrifysgol Reading.

Fe ddywedodd wrth Golwg 360 ddoe bod yr erthygl honno’n amlwg yn dynnu coes – roedd wedi sgrifennu erthyglau eraill yn mynd tros ben llestri tros safbwyntiau amhoblogaidd.

Ei arbenigedd mawr yw hiwmor a jôcs ac mae wedi sgrifennu nifer o lyfrau am hynny.

Llun: Prifysgol Reading