Mae’r efeilliaid o Iwerddon a ddaeth i amlygrwydd ar ôl cystadlu ar y rhaglen dalent, X-Factor, wedi colli’u cytundeb recordio gyda label Sony. Fe fethodd eu sengl gyntaf â chyrraedd brig y siartiau.

Fe gafodd John ac Edward Grimes, 18 eu bachu gan label Sony ar ôl para ymlaen ar y rhaglen nos Sadwrn – er nad oedden nhw bob amser mewn tiwn, ac er bod llawer yn gwawdio eu perfformiadau.

‘Under Pressure’ yn methu

Er bod y ddau frawd wedi ennyn cefnogaeth driw dros eu cyfnod ar yr X-Factor, fe fethodd eu recordiad cyntaf o gân ‘Under Pressure’ â chyrraedd rhif un ddiwedd Chwefror. Wythnos yn ddiweddarach, roedd yr efeilliaid wedi cwympo o’r 10 uchaf.

“Rwy’n gwbwl ymroddedig i Jedward ac rwy’n gwybod fod ganddyn nhw yrfa wych o’u blaenau,” meddai Louis Walsh, rheolwr y ddau, wrth gadarnhau eu bod wedi eu gollwng gan Sony.

Llun: Jedward gan itv.com