Fe fydd newidiadau mawr yn digwydd i reolau hysbysebu ar y teledu a’r radio ym mis Medi eleni – y newidiadau mwyaf ers bron i hanner canmlynedd.

Fe fydd Côd Hysbysebu’r Deyrnas Unedig yn sefydlu’r egwyddor o ‘gyfrifoldeb cymdeithasol’ ar gyfer marchnata ar y teledu a’r radio, er mwyn gwneud yn siŵr fod hysbysebion yn “gyfreithlon, gweddus, gonest a chywir”.

Mae’r rheolau newydd yn cynnwys:

• Cyfyngu ar hysbysebion gêmau cyfrifiadur treisgar
• Rhwystro marchnatwyr rhag casglu gwybodaeth oddi wrth blant o dan 12 oed heb ganiatâd rhieni
• Cyfyngu ar honiadau ysgubol ynglŷn â’r amgylchedd
• Caniatáu hysbysebu condomau ar unrhyw adeg o’r dydd, oni bai yr adegau hynny pan mae rhaglenni ar gyfer plant dan-10 oed yn cael eu darlledu


Newid

Dyma’r newid cyntaf i’r rheolau hysbysebu ers bron i 50 mlynedd.

Fe gafodd y rheolau newydd eu datblygu ar y cyd gan y Pwyllgor Darlledu dros Arferion Hysbysebu (BCAP), Pwyllgor Arfer Hysbysebu (CAP), ac arolygwr y cyfryngau, Ofcom.

Fe fydd y rheolau yn dod i rym ar 1 Medi eleni.