Roedd dirprwy arweinydd y Taliban yn cynnal trafodaethau cyfrinachol gyda llywodraeth Affganistan pan gafodd ei ddal ym Mhacistan.

Mae arestio Mullag Abdul Ghani Barader wedi cynddeiriogi arlywydd Affganistan, Hamid Karzai.

Trafod, trafod, trafod

Yr wythnos diwethaf, fe bwysleisiodd uwch swyddogion y Cenhedloedd Unedig a byddin Prydain ei bod hi’n bryd trafod â’r Taliban.

Mae llywodraeth Affganistan yn ceisio cymell aelodau lefel-isel o’r Taliban i droi cefn ar drais, trwy eu perswadio y gallan nhw elwa’n economaidd.

Ond mae rhai’n methu deall sut mae Prydain a’r Unol Daleithiau yn barod i drafod heddwch gyda phobol wnaeth gynnig lloches i derfysgwyr Medi 11eg.

Tridiau o heddwch

Yn ogystal â chymryd rhan yn y trafodaethau heddwch presennol, fe ddywedodd Hamid Karzai fod Mullah Abdul Ghani Baradar wedi cytuno i fod yn rhan o jirga (cynulliad) heddwch tri diwrnod y mis nesaf.