Dylai banciau roi’r cyfle i gwsmeriaid dynnu’n ôl neu beidio â defnyddio cyfleusterau gor-ddrafft, meddai’r Swyddfa Masnachu Teg.

Wrth gyhoeddi eu hargymhellion ar ddyfodol costau bancio, fe ddywedodd y corff sy’n gwarchod buddiannau cwsmeriaid yr hoffai weld banciau’n rhoi dewis i ddefnyddwyr sydd ddim eisiau gor-ddrafft awtomatig.

Rheoli a deall ffïoedd

Mae’r Swyddfa Masnachu Teg wedi galw hefyd am well dealltwriaeth ynglŷn â faint o ffi y mae cwsmeriaid yn cael ei thalu os ydyn nhw’n mynd i’r coch yn annisgwyl a heb drefnu o flaen llaw.

Mae’r costau yma wedi gostwng yn ddiweddar, meddai’r Swyddfa, ond mae’n galw ar y banciau i barhau i dorri ffioedd pan mae cwsmeriaid yn mynd i or-ddrafft heb awdurdod.