Mae Cadeirydd S4C wedi cyhuddo rhywun o fewn y diwydiant darlledu o ollwng ffigurau cyfrinachol i’r wasg.
Mae’r rheiny wedi creu pwysau anferth ar y sianel, gyda’r awgrym bod llai na 1,000 o bobol yn gwylio llawer o’i rhaglenni.
Yn ôl John Walter Jones, fe fydd y ffigurau yn gwneud drwg i’r sianel ac i’r iaith Gymraeg, a hynny ar adeg dyngedfennol. Roedd yn siarad ar raglen Wythnos Gwilym Owen ar Radio Cymru amser cinio heddiw.
BBC neu ITV
Fe aeth un o sylfaenwyr y sianel ymhellach tra’n cyfrannu i’r un drafodaeth ar y rhaglen heddiw. Yn ôl Euryn Ogwen, roedd rhywun o’r tu fewn i’r BBC neu ITV wedi rhoi’r ffigurau yn nwylo’r wasg.
“Mae rhywun sy’n agos iawn at un o’r ddau ddarlledwr Saesneg yng Nghymru wedi pasio’r ffigrau yma ymlaen heb eu deall nhw’n iawn,” meddai.
“Mae rhywun wedi rhoi cyllell yng nghefn S4C,” meddai wedyn, gan bwysleisio mai dim ond i ddau le arall y mae’r ffigurau llawn yn mynd – y BBC ac ITV yw’r rheiny.
Roedd yn mynnu nad oedd gan y darlledwyr hawl i roi’r ffigurau i neb arall, gan eu bod yn eiddo i’r cwmni sy’n cyfri’ cynulleidfaoedd teledu BARB.
Ffigyrau diystyr
Yn ôl Euryn Ogwen, roedd y ffigurau’n ddiystyr, beth bynnag, gan nad oedd sicrwydd bod siaradwyr Cymraeg yn rhan o’r sampl.
Roedd S4C yn talu’n ychwanegol, meddai, i gael ffigurau manylach sy’n cynnwys aelwydydd gyda siaradwyr yr iaith.
Roedd John Walter Jones hefyd yn bryderus am y rhesymau tros ollwng y ffigurau i’r wasg.
“Dw i’n amau be ydi cymhellion pwy bynnag sydd wedi eu rhyddhau nhw,” meddai. “Rhyw asiantaeth ddarlledu sydd wedi (gwneud).”
Effeithiau “pellgyrhaeddol”
“Mae effeithiau pellgyrhaeddol i’r ffigyrau hyn,” meddai John Walter Jones. “Mae rhyddhau ffigyrau fel hyn yn tanseilio hygrededd y sianel a chwmnïau sy’n gweithio yng Nghymru… Mae o’n gic ym mhob cyfeiriad.
“Dw i’n pryderu fod hygrededd y Sianel yn cael ei danseilio… mae S4C yn gorfod bod yn atebol yn ddyddiol, yn wythnosol… dyna sy’n digwydd ers 27 mlynedd, a dyna hanes pob peth Cymraeg sy’n cael ei ariannu o’r pwrs cyhoeddus.
“Mewn cyfnod cyn etholiad, lle mae yna sôn y byddai newid llywodraeth yn San Steffan a newid y ffordd y mae’r byd darlledu yn cael ei ariannu… mae S4C yn gorfod bod yn barod i newid…”